
Achub Yr Angel
Rydyn ni’n brwydro i achub tafarn y pentref, a sicrhau ei bod yn gweithio i’r gymuned gyfan. Gyda’ch help chi, gallwn ni wneud i hyn ddigwydd.
Gwneud Adduned
£50k yw’r ISAFSWM sydd ei angen i gychwyn y prosiect, ac i gyfateb i’r grantiau rydyn ni’n ymgeisio amdanynt.
£250k yw’r swm DELFRYDOL sydd ei angen er mwyn sicrhau’r dafarn i’r gymuned.
£350k yw’r TARGED sydd ei angen i sicrhau’r dafarn ar gyfer y gymuned, ei hadnewyddu a’i hagor.
Ac os ydym yn mynd dros ein targed, gallwn ni wneud rhagor – fel gwneud y dafarn yn effeithlon o ran ynni i leihau ein costau cynnal, tirweddu’r safle, a chynllunio amwynderau ar gyfer y pentref, fel man chwarae.
Mae’n swnio fel llawer o arian (mae hynny’n wir!), ond mae tafarnau yng Ngheredigion a Sir Benfro wedi gwneud hyn – mae’n bosibl. Er enghraifft, os yw dim ond 200 o bobl yn addo £250 yr un, byddwn yn cyrraedd ein targed isaf o £50k. Rydym wedi sicrhau rhai addunedau mwy yn barod, felly rydym eisoes ar ein ffordd i gyrraedd hynny.
Pam achub Yr Angel?
Ar ôl gwasanaethu’r gymuned am fwy na 150 o flynyddoedd, caeodd tafarn hanesyddol Yr Angel Salem ei ddrysau ym mis Gorffennaf 2022. Gyda chais cynllunio byw i’w drosi i fod yn dai, mae risg enfawr nawr y bydd y gymuned yn colli’r dafarn am byth.
Yr Angel oedd calon ein pentref, ac roedd tristwch mawr i’r gymuned pan gaeodd y dafarn. Does unman yn Salem yn cynnig bwyd a diod, i dwristiaid fwyta, neu i ni gyfarfod a chymdeithasu mewn amgylchedd hamddenol. Mae neuadd pentref llwyddiannus gennym sy’n cynnig llawer o weithgareddau ond roedd y dafarn yn chwarae rôl wahanol – gan ddod â phobl at ei gilydd dros fwyd a diod, cerddoriaeth fyw a digwyddiadau cymunedol mawr. Mae’n bryd i ni ddod ynghyd a gwneud rhywbeth amdano.
Beth oedd Yr Angel yn ei olygu i chi?
🍺 Efallai eich bod yn colli cyfarfod â ffrindiau am ddiod ar ôl gwaith, neu’n colli gweld cerddoriaeth fyw
🍵 Efallai eich bod yn gweithio gartref ac angen wi-fi da, coffi cryf neu beint o laeth
🥳 Efallai eich bod yn colli mynd am bryd o fwyd gyda’r teulu, ar gyfer penblwyddi neu achlysuron eraill
🍃Efallai yr hoffech gyfarfod â phobl newydd – drwy glwb llyfrau, noson cwis, neu ardd gymunedol
🌍 Efallai cawsoch eich magu yma a bod gennych atgofion melys o adegau da yn Yr Angel
🏖️ Efallai eich bod yn dwrist neu’n berchen ar fwthyn gwyliau, yn gyflenwr lleol neu hyd yn oed yn grŵp cymunedol sydd eisiau llogi lleoliad mwy ar gyfer digwyddiadau
❤️Efallai eich bod wedi byw yma drwy gydol eich bywyd ac nad ydych eisiau colli tafarn y pentref.
Beth bynnag yw eich cysylltiad – gallwch chwarae rôl wrth helpu achub Yr Angel.
Beth yw’r cynllun?
Gan weithio gyda Cwmpas (arbenigwyr busnes cymdeithasol) a’r Plunkett Foundation (arbenigwyr tafarnau cymunedol), rydym wedi ffurfio sefydliad cymunedol newydd, gyda gwirfoddolwyr o’r pentref ac ardaloedd cyfagos. Rydyn ni’n ymgyrchu, codi arian ac yn ymgysylltu â’r gymuned i ddatblygu gweledigaeth gyffredin ar gyfer y safle.
I gychwyn y prosiect, mae angen i ni ddangos bod y gymuned yn ei gefnogi’n hollol. Felly rydyn ni’n lansio Adduned Cyfranddaliadau Cymunedol – i gael syniad o’r lefel o gefnogaeth - ac yn gwahodd pawb i gymryd rhan. Mae ein hadduned cyfranddaliadau’n agor ar 22 Ebrill 2024 ac yn rhedeg am 4 wythnos tan 20 Mai.
Ein nod yw sicrhau’r dafarn ar gyfer y gymuned, gan y gymuned. Ond nid yw hyn yn syniad newydd. Mae tafarnau cymunedol yn mynd yn fwy a fwy poblogaidd ac yn fodel busnes llwyddiannus i ni – felly rydyn ni’n sefydlu Cymdeithas Budd Cymunedol (CBS) – model busnes nid-er-elw sy’n denu arianwyr ac wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus gan gymunedau ledled Cymru – fel y White Hart yn Llandudoch a Thafarn y Vale yng Ngheredigion. Mae’n strwythur boblogaidd ar gyfer perchnogaeth asedau sy’n bwysig ar gyfer y gymuned gyfan. Gyda pherchnogaeth gymunedol, mae rheolaeth gennym dros yr hyn y gall y dafarn ei gynnig, a gallwn wneud iddi weithio i ni i gyd. Mae ymchwil gan y Plunkett Foundation wedi dangos bod gan dafarnau cymunedol gyfradd llwyddiant o 99%. Unwaith y mae’r CBS ar waith, rydym yn gobeithio agor y cynnig cyfranddaliadau’n ffurfiol ar ddechrau’r Haf.
Gweledigaeth y Gymuned
Mae ein gweledigaeth wedi datblygu drwy ymgysylltiad â’r gymuned yn ystod pob cam. Yn ystod yr Hydref 2024, lansiwyd ymgynghoriad ar ddyfodol yr Angel a dywedodd dros 90% o’r ymatebwyr yr hoffent weld y dafarn yn ail-agor, ac yn cael ei rhedeg gan y gymuned, ar gyfer y gymuned. Dywedon nhw wrthym yr hoffent gael lle i weithio, dysgu a chymdeithasu, gyda bwyd a diod da, coffi a chacen, wi-fi, siop gymunedol fach a chyfleoedd i gyrchu gwasanaethau fel gofal iechyd, addysg a hyfforddiant.
Hoffent i’r dafarn fod yn gynaliadwy, gydag opsiynau ynni rhad a gardd gymunedol, lle ar gyfer Marchnad Ffermwyr a phwynt cychwyn a gorffen ar gyfer teithiau cerdded a seiclo. Dywedodd rai pobl yr hoffent helpu ei rhedeg, a’u bod eisiau rhoi amser ac arian i helpu. Roedd y gallu i gynnig swyddi lleol, lle ar gyfer rhyngweithiad aml-genhedlaeth a lle cynnes i bobl sy’n gweithio gartref allu gweithio hefyd yn allweddol.
Mae’r ymgynghoriad ac adborth yn ein helpu i lunio ein Cynllun Busnes (yn dod yn fuan!) – ac mae’n broses barhaus. Rydym yn parhau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cymdeithasol i glywed barn pobl a rhannu newyddion am ein cynnydd – ac rydym bob amser yn awyddus i glywed gan y gymuned.
“Yn ystod y pandemig Covid, roedd Yr Angel yn chwarae rôl hynod bwysig fel hwb bwyd cymunedol - gan ddosbarthu bwyd a phrydau parod fel adnodd hanfodol i bobl heb drafnidiaeth, pobl a oedd yn gwarchod eu hunain a’r henoed. Roedd yr hwb yn rhaff achub i bawb a’i defnyddiodd neu a wirfoddolodd yno. Roedd yr hwb yn cysylltu’r pentref yn ystod adeg o argyfwng. Mae’r prosiect wedi dod o’r profiad hwnnw, ac awydd y pentref i beidio â cholli’r adnodd hanfodol hwnnw.”
Gwirfoddolwr Hwb Bwyd






Allwch chi ein helpu?
Mae cefnogaeth gymunedol yn hollbwysig i lwyddiant y prosiect. Dangosodd ein harolwg lefel aruthrol o gefnogaeth i achub Yr Angel fel cymuned, gyda dros 90% o’r ymatebwyr yn dweud yr hoffent weld y dafarn yn ail-agor.
Gallwch chi ein helpu i achub Yr Angel a’i sicrhau ar gyfer y gymuned drwy wneud adduned i brynu cyfranddaliad. Os yw dim ond 200 o bobl yn addo £250, byddwn yn cyrraedd ein carreg filltir gyntaf!
Y mwyaf o bobl sy’n addo eu cefnogaeth, y mwyaf y gallwn ddatblygu’r prosiect – a dangos i arianwyr bod y gymuned yn cefnogi’r cynlluniau.
Ein nod yw y bydd tafarn gymunedol Yr Angel, ar ei newydd wedd, yn creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli, yn cryfhau cydlyniant a gwytnwch cymunedol, yn darparu bwyd a diod fforddiadwy, yn denu twristiaid i aros, bwyta ac yfed, ac yn creu man gymunedol fywiog i bawb.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Pwyswch y botwm Gwneud Adduned isod i roi gwybod i ni faint o gyfranddaliadau yr hoffech eu prynu.
Does dim angen anfon unrhyw arian ar hyn o bryd – ac nid yw’n ymrwymiad terfynol ar eich rhan chi.
Darperir gwybodaeth ariannol bellach a manylion terfynol am y cynnig cyfranddaliadau mewn dogfen cynnig cyfranddaliadau ffurfiol yn nes ymlaen, gan eich galluogi i wneud dewis mwy gwybodus.
Os oes cwestiynau pellach gennych am yr Adduned Cyfranddaliadau Cymunedol, siaradwch ag unrhyw un o aelodau’r gweithgor yn ein noson Twmpath gyda CAWL AM DDIM! ar Ddydd Gwener 10 Mai am 7yh yng Nghanolfan Goffa Salem, neu anfonwch e-bost at salemgarltd@gmail.com